Podiwm

Informações:

Sinopsis

Podlediad / PodCast Chwaraeon

Episodios

  • 12: PODiwm 12 - Emyr Penlan

    12/10/2019 Duración: 55min

    Cyflwynydd y raglan arbennig 'Ralïo,' a aelod o'r grwp Jess; Emyr Penlan yw ein gwestai arbennig yr wythnos hon. Clywn am ei ddileit o chwaraeon ac o gerddoriaeth, a pwnc y Deg Anhêg yw 'Ralio'

  • 11: PODiwm 11: Iolo Williams

    28/09/2019 Duración: 52min

    Y naturiaethwr byd-enwog a;r cyflwynydd nodedig Iolo Williams sydd yn ymuno â ni ar ein hunfed rhaglen ar ddeg. Clywn am ei angerdd tuag at rygbi, a pwnc y Deg Anhêg yw Clwb Pêl Droed Lerpwl

  • 10: PODiwm 10: Sioned Dafydd

    14/07/2019 Duración: 33min

    Cyflwynydd Swans TV Sioned Dafydd yw ein gwestai ar PODiwm 10. Mae hi yn sôn am ei gyrfa o flaen y sgrin a thu ôl i'r sgrin gan drafod ei angerdd am dîm Pêl-Droed Abertawe ymysg llawer iawn o bethau eraill. 

  • 9: PODiwm 9: Dylan Ebenezer

    08/06/2019 Duración: 42min

    Y darlledwr o fri, cyflwynwr Sgorio ac encyclopedia pêl-droed Cymru Dylan Ebenezer yw ein gwestai ar PODiwm 9. Clywn am ei gariad tuag at Arsenal, tim pêl-droed Cymru a hefyd pwnc y Dêg Anhêg yw Uwch-Gynghrair Bêl-Droed Cymru

  • 8: PODiwm 8: Rhodri Gomer Davies

    13/05/2019 Duración: 39min

    Y cyn-chwaraewr Rygbi (Northampton Saints, Dreigiau, Scarlets) a'r cyflwynydd o fri Rhodri Gomer Davies yw ein gwestai ar PODiwm 8. Clywn am ei yrfa rygbi, ei drawsnewidiad gyrfa i fod yn gyflwynydd a sylwebydd, a un o'r perfformiadau gorau posibl ar y cwis "Y Deg Anhêg" 

  • 7: PODiwm 7: Lowri Morgan

    01/05/2019 Duración: 35min

    Y Rhedwr Ultra-Marathon, Cyflwynydd, Awdur, Siaradwr Lowri Morgan yw gwestai PODiwm ar bennod 7. Clywn am ei phrofiadau yn rhedeg yn yr Amazon a'r Arctig, a sut ma hi yn dygymod a rhai o'r sialensau mwyaf y gall person rhoi ar y meddwl a'r corff.

  • 6: PODiwm 6: Gwennan Harries

    09/04/2019 Duración: 41min

    Cyn-ymosodwr tim Pêl-Droed Cymru Gwennan Harries yw ein gwestai ar PODiwm 6. Cawn glywed am ffermio, ei swydd fel athrawes yn Ysgol Glantâf a'r cefndir chwaraeon sydd yn rhedeg yn y teulu. Pwnc y Deg Anheg yw Manchester United 1998-99

  • 5: PODiwm 5: Carwyn Jones AC/AM

    28/03/2019 Duración: 35min

    Prif Weinidog Cymru (2009-2018) Carwyn Jones AC sydd yn ymuno â Bethan a Trystan ym 5ed pennod PODiwm; yn sôn am ei ddidordebau chwaraeon o glwb rygbi Penybont i dîm Cymru yn y 70au

  • 4: PODiwm 4: Rhys Patchell

    22/03/2019 Duración: 39min

    Maswr y Scarlets a Cymru Rhys Patchell yw gwestai PODiwm ar gyfer pennod 4. Cawn glywed am sut y daeth i fod yn chwaraewr rygbi professiynol a'i brif ddiddordebau chwaraeon - a datgelu rhai o'i ddiddordebau cerddorol. 

  • 3: PODiwm 3: Eleri Siôn

    14/03/2019 Duración: 37min

    Y gyflwynwraig o fri Eleri Siôn sy'n ymuno a Bethan a Trystan ar gyfer y trydydd bennod o PODiwm. Cawn glywed Eleri yn trafod ei diddordebau a sôn am rai digwyddiadau o'i gyrfa disglair yn y cyfryngau a'r campau.

  • 2: PODiwm 2: Nicky Robinson

    06/03/2019 Duración: 48min

    Ar ein hail bodlediad, mae'r cyn-faswr, hyfforddwr, perchennog ceffylau a sylwebydd Nicky Robinson yn sôn am ei brofiadau chwaraeon gan gynnwys sawl stori ddiddorol o gryn helaeth o feysydd. 

  • 1: PODiwm 1: Jonathan Edwards AS

    01/03/2019 Duración: 26min

    Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr Jonathan Edwards yw gwestai Podiwm