Podpeth

Informações:

Sinopsis

Mae Hywel Pitts, Iwan Pitts ac Elin Gruffydd yn cyflwyno Podpeth, Y Podlediad Cymraeg - cyfres gyfredol, goeglyd a ddadleuol.

Episodios

  • Podpêl-droed 2021 (v Denmarc)

    26/06/2021 Duración: 28min

    Mae antur Cymru yn Euro 2020 (a gyrfa Matt Hancock) wedi dod i ben, wrth i Denmarc guro ni 4-0... Mae Iwan a @SpursMel yn trafod y gêm, a'r stad ar Spurs, sydd bellach 2 fis heb rheolwr ers i Jose Mourinho adael, ac mae Hywel ac Elin yn galw i fewn o Bae Colwyn. Www! Egsotic! (Mae 'na sŵ yno). Croesi bysedd, bydd "Podpêl-droed" yn dychwelyd ar gyfer Cwpan y Byd 2022! Bydd Podpeth yn nôl yn fuan... 'Run amser wythnos nesaf?

  • Podpêl-droed 2021 (v Yr Eidal)

    20/06/2021 Duración: 26min

    Mae Hywel, Elin a Menai yn ymuno 'fo Iwan a @SpursMel am y drydedd gêm, a'r olaf o gemau'r grŵp. Colli 1-0 yn erbyn Yr Eidal, ond dal drwodd i'r 16 olaf. Hefyd: Gŵyl Download, reflexes anhygoel Mel, ac ydi adar yn bodoli?!

  • Podpêl-droed 2021 (v Twrci)

    16/06/2021 Duración: 34min

    RAMBOOOO! Dyma barn Iwan a @SpursMel am ail gêm Cymru yn Euro 2020, wedi iddynt ennill 2-0 yn erbyn Twrci! Hefyd ar yr agenda: Christian Eriksen, hiliaeth, a'r annhegwch wrth i'r timau mawr chwarae gemau nhw i gyd cartref. Hefyd, cawn clywed Hywel ac Elin a gwesteion arbennig (!) yn trafod dannedd Ramsey, a "future Wales captain" Ethan Ampadu.

  • Podpêl-droed 2021 (v Y Swistir)

    12/06/2021 Duración: 26min

    Mae Podpêl-droed yn nôl! Dyma barn Iwan a @SpursMel am gêm gyntaf Cymru yn Euro 2020, 1-1 yn erbyn Y Swistir. Hefyd, cawn clywed Hywel ac Elin a gwesteion arbennig (!) yn trafod ffasiwn Malcs.

  • UN POD OLA LEUAD #8 - Un Pod Ola

    25/05/2021 Duración: 52min

    Yn y pennod olaf o'r gyfres, mae Hywel yn chwarae clipiau o John Ogwen a Maureen Rhys yn darllen detholiad o'r nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard. Mi fydd Un Pod Ola Leuad yn nôl pan mae'r ffilm ar S4C Clic. Nesaf ar Podpeth, mae Pod Pêl-droed yn atgyfodi ar gyfer Yr Ewros!

  • UN POD OLA LEUAD #7 - Llwyd Owen

    17/05/2021 Duración: 58min

    Yr awdur a podledydd Llwyd Owen ydi'r gwestai arbennig yn y bennod gynderfynol o'r gyfres Un Pod Ola Leuad, sydd yn trafod y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard. Mae Llwyd yn cyflwyno dau bodlediad ei hun, Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM, ac Ysbeidiau Heulog gyda Leigh Jones - sydd ar gael ym mhob man mae podcasts da ar gael.

  • UN POD OLA LEUAD #6 - Gruff Sol

    11/05/2021 Duración: 57min

    Mae'r bardd talentog a chasglwr llus, Gruffudd Eifion Owen, yn ymuno efo criw Podpeth i drafod y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard. Mae Gruff hefyd yn egluro Pennod 8, o'r diwedd!

  • UN POD OLA LEUAD #5 - Caryl Bryn

    04/05/2021 Duración: 58min

    UNOL Super-fan Caryl Bryn sy'n ymuno i drafod y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard efo criw Podpeth.

  • UN POD OLA LEUAD #4 - Miriam Trefor

    27/04/2021 Duración: 44min

    Yr athrylith o Dŷ Newydd, Miriam Trefor Williams, sy'n ymuno efo criw Podpeth wythnos yma i drafod y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard. Rhybudd - peidiwch a quotio'r podlediad yma yn eich traethodau!

  • UN POD OLA LEUAD #3 - Mared Llywelyn

    20/04/2021 Duración: 39min

    Yr actores a dramodydd Mared Llywelyn sy'n ymuno efo criw Podpeth wythnos yma i drafod y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard.

  • UN POD OLA LEUAD #2 - Ar Yr Olwg Gyntaf

    13/04/2021 Duración: 50min

    Wedi darllen Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard, mae criw Podpeth yn trafod eu hagraffiadau cyntaf o'r nofel.

  • UN POD OLA LEUAD #1 - Rhagolwg

    06/04/2021 Duración: 31min

    Croeso i UN POD OLA LEUAD - y gyfres newydd lle fydd Iwan Pitts, Hywel Pitts ac Elin Gruff yn dehongli a dadansoddi'r nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard.

  • Podpeth #67 -"Y GOFID"

    04/10/2020 Duración: 51min

    Mae Elin, Hywel ac Iwan yn nôl ar ôl amser maith i drafod be sydd wedi bod yn digwydd (COVID-19/Coronafeirws, 2020) a be sy'n mynd i fod yn digwydd (clwb llyfrau Podpeth - Un Nos Ola Leuad).

  • Odpeth 19 - "Ape-ocalypse"

    01/11/2019 Duración: 25min

    Mae mwncis yn evil.

  • Odpeth 18 - "Melltithion"

    31/10/2019 Duración: 21min

    Calan Gaeaf Hapus! Pennod olaf Odpeth? Dim cweit, achos mae yna un arall fory (1af o Dachwedd). Tro yma, y pwnc ydi Melltithion, a'r pennawd ydi "Pwyso a Ffrwydro", ac mae Iwan yn siarad am y ffilm Maleficent am amser maith, felly spoilers i Maleficent??

  • Odpeth 17 - "Gwyrthiau"

    30/10/2019 Duración: 21min

    Gwyrthiau ydi'r pwnc yn y bennod arbennig yma, a'r pennawd yw "What-a-fall!"

  • Odpeth 16 - "Bwystfilod"

    29/10/2019 Duración: 21min

    "Spider-Lamb" ydi'r pennawd yn y bennod arbennig yma o Odpeth sy'n trafod cryptids.

  • Odpeth 15 - "UFOs"

    28/10/2019 Duración: 19min

    Blinkin' Aliens! Estron ydi pwnc y bennod yma o Odpeth...

  • Odpeth 14 - "Gwrachod"

    27/10/2019 Duración: 19min

    Be ydi'r cysylltiad rhwng "Ecco the Dolphin" a gwrachod? Cewch ddarganfod yn y bennod yma o Odpeth!

  • Odpeth 13 - "Tylwyth Teg"

    26/10/2019 Duración: 19min

    Be yn union ydi "Tylwyth Teg"? Wel, pwnc trafod y bennod arbennig yma o Odpeth, wrth gwrs! Hefyd: Nobby.

página 2 de 8