Podpeth

Informações:

Sinopsis

Mae Hywel Pitts, Iwan Pitts ac Elin Gruffydd yn cyflwyno Podpeth, Y Podlediad Cymraeg - cyfres gyfredol, goeglyd a ddadleuol.

Episodios

  • BONUS Podpeth - Tom ap Dan

    18/05/2016 Duración: 01h01min

    Ma' Iwan a Hywel yn siarad big cats, Uumar a Pacific Drift efo scuba enthusiast Tom Ap Dan.

  • BONUS Podpeth - Catrin Mara

    27/04/2016 Duración: 01h04min

    Ma' Catrin Mara yn popio fewn i drafod dechrau rumours, ceir a plant yn sgwennu hunangofiannau.

  • Podpeth #9 - Pod Save the Queen

    01/04/2016 Duración: 01h03min

    Mae'r awdur eithafol Llwyd Owen yn ymuno a'r 'ogia i ateb eich cwestiyna twitter, ac i siarad am ei nofel newydd 'Taffia'. Ma'r hogia hefyd yn trio dehongli y syniadad diweddaraf - "Ar y Zip". Dilynwch ni ar twitter - @podpeth.

  • BONUS Podpeth - Yws Gwynedd

    17/03/2016 Duración: 01h03min

    Gwerinos, cathod, Gwobrau'r Selar, ffwtbol, John Lennon, Boi o Blaenau yn mynd i Argos am y tro gyntaf... Awr o fwydro gyda Yws Gwynedd!!! Y "Seren y Funud", "Bryn Fon Newydd", a'r "Justin Timberlake Cymraeg" sydd yn dysgu Iwan a Hywel am Paul Bodin a'r teulu brenhinol. Mae o hefyd yn gwneud rhagfynegiadau anhygoel am y dyfodol...

  • Podpeth #8 - Pod Luck

    07/03/2016 Duración: 01h04min

    Mae Hywel ag Iwan nol unwaith eto am awr o fwydro! Wythnos yma, ein gwestai arbennig ydi Dyl Mei - y 3ydd cyflwynydd gorau yng Nghymru! Mi fydd o'n ateb rhai o'ch cwestiynau Twitter (@Podpeth) - mwy o Dyl i ddod yn fuan mewn pennod Bonws (gobeithio!). Hefyd, beth yn y byd ydi "Botwm Michael Jackson"?!? @SpursMel sydd efo'r atebion yn SyniaDad.

  • Podpeth #7 - Message in a Poddle

    15/02/2016 Duración: 01h04min

    Haia iawn? Wythnos yma, mae Tom Ap Dan yn ymuno a'r brodyr Pitts yn y stiwdio i ateb cwestiynau Twitter, ac i amlinellu ei nofel anysgrifenedig o ddechrau i ddiwedd (Spoilers!). Hefyd, mae Hywel yn dangos ei dalent ar y gitâr, mae Iwan yn ateb y cwestiwn "Lle mae'r Bonus Podpeths i gyd 'di mynd?!" ac mae Dad yn egluro Curryoke. Dilynwch ni ar Twitter i weld fideo o Tom yn jyglo! @Podpeth

  • Podpeth #6 - Oh My Pod

    08/02/2016 Duración: 47min

    Helo! Shw'mae? Iawn?Wythnos yma, mae Catrin Mara yn ymuno a Iwan a Hywel, i ateb eich cwestiynau Twitter! Dilynwch ni yma - @Podpeth Hefyd, mae Dad efo syniad am lliwio cestyll.

  • Podpeth #5 - Let's Pod

    25/01/2016 Duración: 56min

    Wythnos yma, mae'r hogia yn trafod #DespiteBeingTaughtInWelsh, #OscarsSoWhite a Men's Rights. Hefyd, mae Yws Gwynedd yn popio fewn i ateb eich cwestiynau ar Twitter (@Podpeth), a mae Dad efo syniad newydd sydd ddim byd debyg i The Voice.

  • Podpeth #4 - Pod of Ages

    13/01/2016 Duración: 46min

    Mae'r hogia yn nol yn trafod y rhif 31, y gwestai delfrydol, y New Years Honours List, cymeriadau comedi, Star Wars (spoilers!), a mae Dad yn nol yn roi Cant Y Cant. @Podpeth ar Twitter

  • Podpeth 2K15 - Sbeshial Blynyddol

    13/01/2016 Duración: 01h20min

    Mae hi'n flwyddyn newydd, amser i adolygu y flwyddyn oedd 2015...Mae Iwan ac Hywel yn trafod y gorau, y gwaethau, a'r Cymraeg: Ffilms Albyms Gêm Rhaglen Teledu Podlediad Ffad Digwyddiad Person Felly disgwyliwch digon o fwydro am Donald Trump, Jupiter Ascending, Great British Bake Off, Topknots a Rory McIlroy...

  • BONUS Podpeth - Cai Gruffydd

    05/01/2016 Duración: 01h03min

    Yn yr awr ychwanegol yma, mae Cai "Reu" Gruffydd yn siarad efo ni am dryms, Monster, Xbox One, Segways, Interstellar, Maes B, Cyw a Britain First. Reu.

  • Podpeth #3 - Christmas Pod

    23/12/2015 Duración: 49min

    Christmas Special 3 episodes in?! Mae Iwan a Hywel yn trafod bob math o bethau Nadoligaidd - Buddhism, Y Tri Sion Corn, America, Xbox One a Strictly Come Dancing efo Cai Gruffydd o Y Reu. A mi fydd @SpursMel yn nol efo syniad gwych arall.   Nadolig Llawen!

  • BONUS Podpeth - Welsh Whisperer

    18/12/2015 Duración: 01h03min

    Yn yr awr ychwanegol yma, cawn glywed hanes Welsh Whisperer wrth iddo drafod cerddoriaeth gwledig, comedi, PRS, Dafydd Iwan, etymoleg y nom de plume Welsh Whisperer a'i fwstash. Unmissable! Mwy o'r Welsh Whisperer yma - http://welshwhisperer.cymru/

  • Podpeth #2 - Pod of Gold

    14/12/2015 Duración: 37min

    Y "difficult second album"! Mae Hywel ac Iwan Pitts yn gofyn y cwestiynau mawr i gyd: Ydi Rhydian yn robot? Ydi Cymru am ennill cystadleuaeth Euro 2016? Oes mwy o siaradwyr Cymraeg yn mynd i ddechrau podledu? Mae The Welsh Daniel O'Donnell - Welsh Whisperer - yn y stiwdio i ateb eich cwestiynau Twitter (@podpeth), ac i siarad am gigs anodd, parch barf, Hitler a bungee jumpio.Hefyd, cawn glywed gan @SpursMel, sydd efo syniad sydd ddim byd debyg i Can i Gymru.

  • BONUS Podpeth - Sion Maffia

    08/12/2015 Duración: 01h05min

    Yn yr awr ychwanegol yma, cawn glywed barn Sion Jones o Maffia Mr Huws am amryw o bethau dadleuol - Time Travel, Refugees, ISIS, robots, Jeremy Corbyn, difaterwch pobl Cymraeg a Ted Hankey.

  • Podpeth #1 - Podfellas

    07/12/2015 Duración: 38min

    Mae'r trydedd gyfres wedi cyrraedd!Ar ôl amser maith, mae Hywel ac Iwan Pitts yn nol efo 'gritty reboot' o'r mudiad podlediad Cymraeg, sydd bellach efo cyfrif Twitter a bob dim - @podpeth The Maffia is in town... Sion "Maffia" Jones, o Maffia Mr Huws. Mae o'n ateb eich cwestiynau, ac yn siarad am ISIS, Syria, time travel, robots, Yr Anhrefn, a Ted Hankey.   Hefyd, cawn glywed gan @SpursMel, sydd efo syniad wneith codi Syndod...

página 8 de 8