Podpeth

Informações:

Sinopsis

Mae Hywel Pitts, Iwan Pitts ac Elin Gruffydd yn cyflwyno Podpeth, Y Podlediad Cymraeg - cyfres gyfredol, goeglyd a ddadleuol.

Episodios

  • BONWS Podpeth - Mari Lovgreen

    21/12/2016 Duración: 01h03min

    Mae'r hogiau yn gwario awr yn wely Mari Lovgreen efo ei ffrind gorau Ffion, ac yn trafod enwau babis, Awst-25wyr a llyfr newydd Mari (allan Medi 2017).  Gwyliwch gyfweliad Mari a Gareth Yr Orangutan ar Facebook Y Lle dros y Nadolig.

  • Podpeth #15 - RoboPod

    19/12/2016 Duración: 01h03min

    Wythnos cyn 'dolig, ac am y chweched wythnos yn olynol, dyma Podpeth arall! Mae'r hogia yn trafod barfau a rhyfeloedd, ac yn ymddiheuro i Jefferson Montero.  Hefyd, mae Mari Løvgreen (a'i ffrind Ffion) yn ateb eich cwestiynau Twitter a Facebook (@Podpeth), ac mae Dad efo syniad am raglen - 'Carreg Filltir'.

  • BONWS Podpeth - Sarah Breese

    14/12/2016 Duración: 01h40s

    Mae'r digrifwr Sarah Breese yn dysgu'r hogia am gomedi, shower thoughts, be bynnag 'di "ball squeezing", a sut i ennill BAFTA. Mi fydd Sarah ar Gwerthu Allan wythnos yma; 21:30 nos Wener ar S4C.

  • Podpeth #14 - Pod of Egypt

    12/12/2016 Duración: 01h04s

    Ein gwestai arbennig trwy hud y rhyngrwyd ydi'r digrifwr Sarah Breese, sy'n ateb eich cwestiynau twitter (@Podpeth). Mae Iwan a Hywel yn trafod terfysgaeth a peanut butter, cyn ceisio am swydd fel cydweithredwyr S4C, ac mae Dad efo SyniaDad am gŵn yn canu.

  • BONWS Podpeth - Geraint Iwan

    07/12/2016 Duración: 01h04min

    Mae cyflwynydd Radio Cymru Geraint Iwan yn egluro ysbrydion, reality TV, pobl yn byw yn yr haul, Brexit a ffilms M. Night Shyamalan mewn awren o sgwrs efo'r hogia!  Mae Geraint ar Radio Cymru bob Nos Wener rhwng 7 a 10.

  • Podpeth #13 - TriskaidekaPodia

    05/12/2016 Duración: 56min

    "Kevin!" Ia wir, mae'r Podpeth yn nol eto gyda phennod anlwcus i'r rhai sydd ddim yn cyfri'r Bonwses fel penodau go wir (fel ni). Wythnos yma, mae Geraint Iwan yn ymuno i siarad am junk food a Gerry Adams, ac mae'r hogiau yn siarad am sut fedrwch chi sy'n gwrando noddi'r Podpeth, a sut byswch chi'n elwa. Hefyd, mae Dad efo syniad newydd am raglen teledu - "Y Llew Gwyn".

  • BONWS Podpeth - Rhys Gwynfor

    30/11/2016 Duración: 01h04min

    Mae enillydd Cân I Gymru 2013, Rhys Gwynfor, yn dweud wrth Iwan a Hywel am Cân i Gymru, mobile butchers, a Johnny Crystal (??).  Cynnyrch newydd gan crooner mwyaf cŵl Cymru yn fuan ar ei Soundcloud.

  • Podpeth #12 - Escape Pod New York

    28/11/2016 Duración: 57min

    Podpeth ahoy! Ein gwestai arbennig wythnos yma ydi Rhys Gwynfor, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth). Mae Iwan ac Hywel yn trafod Fidel Castro, mae Iwan yn son am ei ddyfodol fel podlediwr a stand-up, cyn i Hywel bron iawn datgelu cyfrinach... Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Helfa'r Drons".

  • BONWS Podpeth - Nici Beech

    23/11/2016 Duración: 01h05min

    Mae'r hwylusydd diwylliant Nici Beech yn siarad efo Iwan a Hywel am deledu, cadw cwningod i fwyta, gigs a gwyliau, a'r llyfr newydd, Cegin.

  • Podpeth #11 - Dad Pod

    21/11/2016 Duración: 01h06min

    Wythnos newydd, Podpeth newydd! Ydi Iwan a Hywel wedi aberthu cynnwys o ansawdd er mwyn cael podlediad mwy cyson? Do. Ein gwestai arbennig ydi Nici Beech, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth). Mae Iwan hefyd yn eich annog i droi at drydaru er mwyn ein beirniadu yn gas am bodledu mor wael, wrth i Hywel (sydd yn hanner cysgu) hel atgofion am gael ei "happy slapio" ym Mangor. Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Emosiynol".

  • BONWS Podpeth - Llŷr Alun Jones

    16/11/2016 Duración: 01h07min

    Mae'r artist Llŷr Alun Jones, a.k.a. Piŵb, wedi troi hen siop COB Records ym Mangor i mewn i ganolfan i'r celfyddydau, ac mae o'n siarad efo Iwan a Hywel am Gogglebox, Prince a Trump.

  • Podpeth #10 - Grab her by the Pod

    14/11/2016 Duración: 01h05min

    Mae Hywel ag Iwan nol ar ol amser maith! Sut mae'r byd wedi newid ers y tro diwethaf i ni glywed Podpeth? Ein gwestai arbennig ydi'r hogyn o Sling - na, dim John Ogwen, ond yr artist Llŷr Alun Jones! Mi fydd o'n ateb rhai o'ch cwestiynau Twitter (@Podpeth) - mwy o Llŷr i ddod yn fuan mewn pennod Bonws. Hefyd, mae Dad efo syniad newydd.

  • Podpêl-droed (v Portiwgal)

    06/07/2016 Duración: 19min

    Ar ôl twrnamaint bythgofiadwy, mae Cymru allan, wedi colli 2-0 i Bortiwgal yn y semis.  Ond, mae Iwan a @SpursMel yn bell o fod yn ddigalon (heb law bod Mel isio roi cweir i Cristiano).  Mae Hywel yng nghwmni Dan Owen (I Fight Lions), John Sams a Jack Peyton, i drafod y gêm (a Tinder).

  • Podpêl-droed (v Gwlad Belg)

    02/07/2016 Duración: 17min

    Wow!  Ymateb i gêm hanesyddol arall i Gymru wrth i ni guro'r Gwlad Belg 3-1 i fynd ymlaen i'r rownd gynderfynol!  Mae Iwan a @SpursMel yn breuddwydio am Ffrainc, a mae Hywel yn rhegi'n angerddol efo Dan Owen, Mr a Mrs Jones, a dyn mewn poncho (Gaz Clarke) yn y glaw ar faes ŵyl Ymuno. Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.

  • Podpêl-droed (v Gogledd Iwerddon)

    25/06/2016 Duración: 15min

    Mae Iwan a @SpursMel yn dadansoddi'r 1-0 yn erbyn Gogledd Iwerddon wrth i Gymru symud ymlaen i'r rowndiau gogynderfynol.  Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd yn y fanzone yn "Bale Coleman".   Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.

  • Podpêl-droed (v Rwsia)

    21/06/2016 Duración: 17min

    Mae Iwan a @SpursMel yn dathlu'r 3-0 yn erbyn Rwsia wrth i Gymru orffen top y grŵp.  Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd bellach adra ym Mae Colwyn (neu, Coleman Bale), efo criw o ffrindiau sydd yn cynnwys Jack Peyton, sydd wedi bod yn brysur yn gwario ei bres i gyd ar roi gig mawr ymlaen yng Nghaernarfon (gyda'r gobaith o neud mwy).  Dyma linc Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.

  • Podpêl-droed (v Lloegr)

    16/06/2016 Duración: 14min

    Mae Iwan a @SpursMel yn dadansoddi ail gêm Cymru yn yr Ewros, yr 1-2 siomedig yn erbyn Lloegr.  Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd dal yn Bordeaux, efo Rhys Evans a Dan Owen o I Fight Lions. Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.

  • Podpêl-droed (v Slofacia)

    12/06/2016 Duración: 15min

    Gydag Ewro 2016 wedi cychwyn, mae Iwan a @SpursMel yn dadansoddi gêm gyntaf Cymru, y 2-1 hanesyddol yn erbyn Slofacia.  Hefyd, cawn glywed gan Hywel, sydd yn Bordeaux efo Rhys Evans o I Fight Lions. Cyn. sylwebaeth S4C Nic Parry a Malcolm Allen.

  • BONUS Podpeth - Llwyd Owen

    08/06/2016 Duración: 01h35s

    Mae'r nofelydd Llwyd Owen yn y stiwdio 'stafell gefn yn siarad am erotic literature, Papa John's a'i lyfr newydd, Taffia.

  • BONUS Podpeth - Dyl Mei

    05/06/2016 Duración: 58min

    Mae un o gyflwynwyr gorau Cymru (top 3!) Dyl Mei yn trafod guilt trips, Gwobrau'r Selar, Duffy a FIFA.

página 7 de 8