Podpeth

Informações:

Sinopsis

Mae Hywel Pitts, Iwan Pitts ac Elin Gruffydd yn cyflwyno Podpeth, Y Podlediad Cymraeg - cyfres gyfredol, goeglyd a ddadleuol.

Episodios

  • Podpêl-droed 2022 (v Lloegr)

    29/11/2022 Duración: 32min

    Mae'r criw yn trafod gêm olaf Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 ar ôl iddynt golli 3-0 i Loegr, wrth i arbrawf Iwan i wneud podlediad yn defnyddio 'mond negeseuon llais fethu'n llwyr. Sgarff Dafydd Iwan, Geraint Løvgreen, ac annwyd Elin. Mae Hywel yn plygio ei daith Cabarela (sydd wedi gwerthu allan), ac mae Iwan yn plygio ei rhaglen radio ar Spotify - The Internet Radio Tapes. Bydd Podpeth yn nôl yn fuan...

  • Podpêl-droed 2022 (v Iran)

    26/11/2022 Duración: 39min

    Mae Iwan a Spurs Mel yn trafod ail gêm Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 wrth iddynt golli 2-0 i Iran. Mae Mel yn darllen barddoniaeth Ryan Giggs, ac yn gofyn y cwestiwn - Pwy oedd Hitler?  Hefyd, cawn hanes sioe Spotify newydd Iwan (The Internet Radio Tapes). Mae Hywel ar ei ffordd i gig ym Mryngwran - Bragdy’r Beirdd, ac yn sôn am ei gigs ar y gweill.

  • Podpêl-droed 2022 (v Yr UDA)

    22/11/2022 Duración: 30min

    Mae Iwan a Spurs Mel yn trafod gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd ers 1958, ac yn trafod Qatar, caneuon Cwpan y Byd, Covid, Tudur Owen ar Gogglebocs, a Matt Hancock. Mae Hywel wedi cael lot gormod i yfed ac yn gohebu o Neuadd y Farchnad.

  • Syniadad #10 - Telibocs

    26/07/2022 Duración: 37min

    "'Dyn nhw'n gneud microwave a ffrij? Mewn un?" Mae syniad diweddara' @SpursMel yn swnio'n eithaf tebyg i syniad sy'n bodoli'n barod. Mae Hywel, Iwan ac Elin yn ymateb.

  • Syniadad #9 - LGBTQIA+ (15)

    19/07/2022 Duración: 29min

    "Ydi o dal yn syniad fi 'lly?" "... Di o'm yn syniad" Mae calon @SpursMel yn y lle iawn gyda'i syniad diweddara' - ond mae o'n codi lot o gwestiynau. Mae Iwan, Elin a Hywel yn trio'u gorau i'w hateb.

  • Syniadad #8 - Chwadan Allan o Ddŵr

    12/07/2022 Duración: 33min

    "Be 'di duck yn criced?" "Dim" "Ia, dyna allan o ddeg ma hwn yn mynd i gael..." Mae profiad diweddar mewn bar ym Maenceinion wedi rhoi syniad newydd i @SpursMel.  Elin, Iwan a Hywel sy'n ymateb.

  • Syniadad #7 - Podpeth ar Daith!

    28/06/2022 Duración: 36min

    "Wyt ti'n gwrando ar unrhyw bodcasts?" "Na."   Mae gan @SpursMel syniad tydi hyd 'noed o'm yn licio. Elin, Iwan a Hywel sy'n gofyn y cwestiwn: Pam?

  • Syniadad #6 - Gigs VR

    21/06/2022 Duración: 36min

    "S'genno fi'm cwynion am hwn de Mel"   Mae @SpursMel wedi meddwl am syniad newydd (ond yn amlwg heb feddwl am deitl call iddo). Mae adborth Hywel, Elin ac Iwan yn well nag arfer.

  • Syniadad #5 - Incognito / Limo i’r Sêr

    14/06/2022 Duración: 40min

    "Dw i 'di g'neud tri sgript bach..."   Mae @SpursMel i fyny i'w hen driciau gyda'i Syniadad wythnos yma - ond diolch byth mae o hefyd wedi bod yn brysur yn sgwennu sgriptiau. Mae Hywel, Elin ac Iwan yn trio'u gorau i ddadansoddi.

  • Syniadad #4 - Cystadleuaeth Cân Eurovision Cymru

    07/06/2022 Duración: 33min

    "Mae 'na botenshal i hwnna fod yn... problematic de" "Pam?!"   Mae Iwan, Elin a Hywel yn cael deja vu wrth rhoi adborth i @SpursMel am ei syniad diweddara'.

  • Syniadad #3 - Cewri Tudur

    31/05/2022 Duración: 33min

    "Be 'di hwn ydi ailwampio un o Syniadads gora fi... Ar y Zip."   Mae Elin, Hywel ac Iwan yn trio gwneud synnwyr o syniad diweddara' @SpursMel.   (Mae'r ysbrydoliaeth - Ar y Zip - yn wreiddiol o bennod 9 o'r Podpeth.)

  • Syniadad #2 - Tacsi!

    24/05/2022 Duración: 28min

    "Dw i'm isho byrstio bybl chdi strêt awe... ond sut mae hwn yn wahanol i Gwlad yr Astra Gwyn?"   Mae Iwan, Hywel ac Elin yn ymateb i syniad @SpursMel am sitcom newydd sbon.

  • Syniadad #1 - Mothfil

    17/05/2022 Duración: 29min

    "Wel, ma siŵr fyddan nhw'n monstrosities"   Iwan, Hywel ac Elin sy'n rhoi adborth i syniad diweddaraf @SpursMel.

  • UN POD OLA LEUAD #9 - Rhys Gwynfor

    21/12/2021 Duración: 01h08min

    Yr awdur teledu a'r cerddor arbennig Rhys Gwynfor sydd yn ymuno am sgwrs i drafod 'Un Nos Ola Leuad', ond tro yma yr addasiad ffilm o 1991 gan Gwenlyn Parry ac Endaf Emlyn o nofel Caradog Pritchard. Nadolig Llawen!

  • Odpeth 25 - Ysbrydion Llandaf

    30/11/2021 Duración: 37min

    A wnaeth lun o fachgen yn crïo achosi tai i losgi lawr yn yr 80au? Pa gyffes gythryblus wnaeth goths Llandaf rhannu gyda Hywel? Pam bod y brif ddinas mor sbwci? Dyna dan ni’n drafod yn bennod yma o #Odpeth!

  • Odpeth 24 - Aliens

    23/11/2021 Duración: 34min

    Heddiw, mae criw Podpeth yn trafod aliens, hoff takeaways a pwy dylai'r Ddaear danfon fel cynrychiolydd i gyfarfod bywyd arall-fydol.

  • Odpeth 23 - Ysbrydion Pen Llŷn

    16/11/2021 Duración: 36min

    Yda chi wedi clywed am Bwgan Pant-Y-Wennol? Na ni! Yn y bennod yma o Odpeth, mae'r criw yn trafod Pen Llŷn, pronouns, poltergeists a property developers.

  • Odpeth 22 - Rhyw Ysbryd

    09/11/2021 Duración: 27min

    Yn y bennod hon o Odpeth, cawn hanes ddyn (anhysbys) o Sir Benfro sydd wedi cael secs efo ghost. Ond be ddigwyddodd go wir? Iwan, Hywel ac Elin sy'n trafod...

  • Odpeth 21 - Judge Jeffreys

    02/11/2021 Duración: 28min

    Pwy oedd yr "Hanging Judge" o Wrecsam, a be mae o'n dda mewn tafarn yn Llundain yn 2014? Y teulu Pitts sy'n ymchwilio...

  • Odpeth 20 - COVIDspiracies

    26/10/2021 Duración: 33min

    I ddathlu Calan Gaeaf, mae'r podcast mwyaf sbwci yn y byd yn nôl! Yn y bennod yma o Odpeth, dan ni'n gofyn y cwestiwn mawr - "Ydi'r pandemic yn PLANdemic?" Mae'r ateb yn amlwg (na), ond tydi hynna ddim yn stopio Iwan, Hywel, Elin a Miw (y gath) trafod 5G, Bill Gates a Brexiteers. Wythnos nesaf, ysbryd!

página 1 de 8