Sinopsis
Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)
Episodios
-
Clera Medi 2025
28/09/2025 Duración: 01h25minCroeso i bennod mis Medi, 2025 o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn sgwrs gydag enillydd Cadair Wrecsam, y Prifardd Tudur Hallam, cerdd gan y Prifardd Carwyn Eckley o'i gyfrol newydd, 'Trochi (Gwasg Carreg Gwalch) yn ogystal â'r Delicysi gan Dylan, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis a llawer mwy.
-
Clera Awst 2025
01/08/2025 Duración: 43minCroeso i bennod arbennig o Clera wrth inni edrych ymlaen at Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam. Y tro hwn, rydyn ni'n pwnco am draddodiad 'y cyff clêr' gyda'r Prif Lenor Eurig Salisbury yn y gornel las ac Yr Islwyn yn Ymryson y Beirdd, Gruffudd Antur yn ei wynebu yn y gornel goch!
-
Clera Gorffennaf 2025
14/07/2025 Duración: 01h36minCroeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad Clera, lle mae barddoniaeth Gymraeg yn cael sylw haeddiannol! Y mis hwn, byddwn yn pwnco ynglŷn â'r traddodiad o ganu ffug-farwnadau. Cawn hefyd gerdd newydd sbon gan yr Archdderwydd Mererid Hopwood o'i chyfrol newydd, 'Mae' (Cyhoeddiadau Barddas) ac fe fyddwn ni hefyd yn holi'r Prifardd Llŷr Gwyn lewis am ei gyfrol newydd yntau, 'Holl Lawenydd Gwyllt' (Cyhoeddiadau Barddas). Hyn a llawer mwy o'r perlau a'r dwli arferol! Diolch i Llŷr Gwyn am y llun sydd ar y clawr.
-
Clera Mehefin 2025
30/06/2025 Duración: 01h37minCroeso i bennod mis Mehefin o bodlediad Barddol Cymraeg hyna'r byd! Yn y bennod orlawn hon, mae gennym eitem arbennig ar eich cyfer, wedi ei recordio yn ddiweddar gan Meirion Jones o Bentre-cwrt, pentre genediol T Llew Jones lle bu taith dywys yn olrhain ei lwybrau. Cawn hefyd orffwysgerdd gan y Prifardd Hywel Griffiths a Diweddgan o waith y Prifardd Tudur Dylan Jones. Hefyd, cawn glywed gan fwy o feirdd categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn, sef Sioned Erin hughes a Meleri Davies. Hyn oll, a mwy!!! Mwynhewch, rhannwch, barddonwch.
-
Clera Mai 2025
30/05/2025 Duración: 01h21minDuw gwyddiad mae da gweddai Dechreuad mwyn dyfiad Mai. Fel gwedodd Dafydd ap Gwilym, mae'n braf gweld mis Mai (ond fe'i gwedodd yn well!). Croeso i bennod newydd o Clera, sef podlediad barddol Cymraeg yn trafod agweddau o bob math ar farddoni yng Nghymru. Cawn Orffwysgerdd gan fardd y gadair yn Eisteddfod Pontrhydfendigaid, Iwan Morgan, sgyrsiau gyda'r artist Marian Haf a Siôn Tomos Owen, y Delicysi gan Dylan, llinell gynganeddol ddamweiniol y mis, y pwnco a llawer llawer mwy! Diolch hefyd i Tudur Dylan Jones a'i awyren am y llun bendigedig ar glawr y bennod.
-
Clera Ebrill 2025
30/04/2025 Duración: 01h23minCroeso i bennod mis Ebrill o bodlediad Clera. Y mis hwn rydyn ni'n trafod yr hyn sydd ar dân ar wefusau pawb ledled Cymru....teitlau cerddi! Yn ogystal â hynny, cawn Orffwysgerdd hyfryd gan Haf Llewelyn, cerdd o'r flodeugerdd newydd, 'O ffrwyth y Gangen Hon'.. Hefyd rydyn ni'n ddiolchgar iawn am y fraint o gael cynnwys nid dim ond un Ebenezer, ond dau! Diolch i Dylan Ebz am fynd â holi ei dad, Lyn, ynglŷn a'i gyfrol fendigedig newydd, Cerddi'r Ystrad. Ar ben hyn oll, cawn sgwrsa gyda'r cyn-Fardd Cenedlaethol, Ifor ap Glyn, a hefyd y delicyssi gan Dylan, Tudur Dylan, neb llai. Ac ar ddiwedd y bennod, syrpreis bach ar eich cyfer. mwynhewch!
-
-
Clera Chwefror 2025
27/02/2025 Duración: 01h33minCroeso i bennod y mis bach o bodlediad barddol Clera. Y tro hwn cawn gwmni difyr Y Prifardd Rhys Iorwerth a Gruff Davies sy'n trafod y ffilm newydd Bardd Gwlad, yn ogystal â cherdd yn egsliwsif o gyfrol newydd Jo Heyde. Ar ben hynny, cawn hefyd gerdd newydd sbon gan Fardd Tref Caernarfon, Iestyn Tyne. Hyn, a llawer mwy!
-
-
Clera Rhagfyr 2024
20/12/2024 Duración: 01h52minGyda chyfarchion yr Ŵyl, croeso mawr i chi i bennod mis Rhagfyr, 2024 o Clera. Mae gyda ni wledd o lyfrau a sgyrsiau â'r beirdd a'u saerniodd ar eich cyfer. Cawn gwmni felly, Christine James, Daniel Huws, Meleri Davies a Dafydd John Pritchard, sydd oll newydd gyhoeddi cyfrolau newyd sbon. Ewch ati i'w prynu fel anrhegion Nadolig, neu jyst fel llyfrau gwerth eu cael. Hefyd cawn glywed y Delicysi gan Tudur Dylan ac mae ein beirniad llym, Gruffudd Antur yn ei ôl i ddewis y llinell gynganeddol ddamweiniol y mis orau ar gyfer mis Rhagfyr. Hyn oll, a mwy o'r dwli arferol! Ac os hoffech wneud cyfraniad ariannol i'n helpu ni i ddatblygu'r podlediad, ewch i: https://www.crowdfunder.co.uk/p/podlediad-clera Nadalek llawen i chi gyd!
-
Clera Tachwedd 2024
30/11/2024 Duración: 01h36minCroeso i bennod y mis Du o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn glywed cerdd arobryn Mared Fflur Jones a enillodd Gadair Eisgteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifanc. Cawn hefyd glywed darlith Gruffudd Antur o Wyl Gerallt yn cofio y Prifardd Feuryn ei hun, y diweddar Gerallt Lloyd Owen, ddeng mlynedd wedi inni ei golli. Hyn a llawer mwy.
-
Clera Hydref 2024
31/10/2024 Duración: 01h32minCroeso i bennod mis Hydref o bodlediad Clera. Y tro hwn cawn y fraint o sgwrsio gyda Phrifardd y Goron, Gwynfor Dafydd, i drafod pob math o bethau am y byd barddol, gan gynnwys ei gerddi gwych a gipiodd Goron yr Hen Bont iddo. Cawn hefyd gerdd gan enillydd Llyfr y Flwyddyn, Mari George, o'i phamffled newydd hi o gerddi. Cawn hefyd gwmni sawl un arall gan gynnwys, Elinor Wyn Reynolds, Jo Heyde, Tudur Dylan a Gruffudd Antur. Mae gennych hefyd gyfle i gefnogi clera yn ariannol os ydych chi'n mwynhau'r podlediad. Cliciwch ar y linc: https://www.crowdfunder.co.uk/p/podlediad-clera
-
Clera Medi 2024
28/09/2024 Duración: 01h55minCroeso i bennod hynod o swmpus o bodlediad Clera. Yn rhifyn mis Medi cawn nid yn unig glywed llais yr Archdderwydd, Mererid Hopwood yn trafod gwaith arobryn Cadair Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, ond cawn hefyd sgwrs hynod ddifyr yng nghwmni enillydd y Gadair honno, Y Prifardd Carwyn Eckley. Cawn hefyd y fraint o roi llwyfan i gerdd Gymraeg gyntaf yr awdur Mike Parker ynghyd a llawer mwy o'r dwli arferol.
-
Clera Awst 2024 - Yn Fyw o'r Babell Lên
16/08/2024 Duración: 45minCroeso i bennod arbennig o Clera - yn fyw o'r Babell Lên. Ar sadwrn ola'r brifwyl wych a gynhaliwyd ym Mhontypridd, cawsom gwmni gwesteion ffraeth a difyr, sef Llio Maddocks, Siôn Tomos Owen, Gruffudd Antur a'r Prifardd Gwynfor Dafydd.
-
Clera Gorffennaf 2024
31/07/2024 Duración: 01h44minCroeso i bennod mis Gorffennaf o bodlediad barddol Cymraeg hyna'r byd! Yn y rhifyn hwn, cawn sgwrs ddifyr gyda Bardd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd eleni, Lois Medi Wiliam. Cawn hefyd sgwrs ddifyr am bamffledi gyda dau fardd sy'n cyhoeddi pamffledi newydd, sef Mari George a Jo Heyde. Cawn hefyd flas o gerddi arobryn Cadair Gŵyl Fawr Aberteifi, gan yr enillydd, Lowri Lloyd. Hyn a llawer mwy. Mwynhewch!
-
Clera Mehefin 2024
28/06/2024 Duración: 01h16minCroeso i bennod Mis Mehefin o bodlediad barddol Clera. Y Mis hwn, Elinor Wyn Reynolds sy'n tafoli cyfrolau barddol Llyfr y Flwyddyn ac yn rhoi ei phen ar y bloc. Ond pa gyfrol mae Elinor yn tybio ddylsai ennill o blith y tair cyfrol wych sy'n y categori barddol eleni? Gwrandwch i gael gwybod. Cawn hefyd gerdd gan yr hyfryd Jo Heyde sydd wedi cyhoeddi ei chasgliad cyntaf o gerddi drwy Gyhoeddiadau'r Stamp. Mynnwch gopi! Hyn oll a mwy!
-
Clera Mai 2024
25/05/2024 Duración: 01h14minHawddamor, glwysgor glasgoed! Croeso i bennod Mis Mai o bodlediad Clera. Yn hoff fis Dafydd ap Gwilym cawn drafod llawysgrif newydd y mae'r Llyfrgell genedlaethol newydd ei brynu, Llyfr y Flwyddyn 2024, Eisteddfodau yr Urdd, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam ac fe gawn hefyd gerddi gan Aron Pritchard ac Aled Lewis Evans. Hyn oll, a mwy!
-
Clera Ebrill 2024
28/04/2024 Duración: 01h18minCroeso i bennod mis Ebrill o bodlediad barddol Clera. Y mis hwn cawn y pleser o holi Sioned Dafydd, Cyflwynydd Sgorio a Golygydd y flodeugerdd newydd o gerddi am y campau, 'Mae Gêm yn Fwy na Gêm' (Cyhoeddiadau Barddas). Clywn hefyd am arddangosfa o gelf a barddoniaeth sy'n ymateb i waith y bardd mawr o Gwrdistan, Abdulla Goran, yng nhgwmni Alan Deelan, Heledd Fychan AS ac Ifor ap Glyn. Hyn oll a chwmni ffraetha difyr ein Posfeistr, Gruffudd Antur.
-
Clera Mawrth 2024
23/03/2024 Duración: 01h14minCroeso i bennod mis Mawrth o bodlediad Clera. Y tro hwn rydyn ni'n Pwnco am Pencerdd - cynllun cyffrous Pencerdd lle mae 5 bardd yn cael blwyddyn gyda 5 athro barddol i gamu ymlaen yn eu cynganeddu. Cawn felly gwmni Non Lewis ac Ana Chiabrando Rees, ill dwy yn rhan o'r 5 disgybl ar gynllun Pencerdd, yn ogystal â Mared Roberts a Leusa Llywelyn o Lenyddiaeth Cymru. Hyn a llawer mwy, mwynhewch.
-
Clera Chwefror 2024
28/02/2024 Duración: 01h11minCroeso i bennod y Mis Bach o bodlediad barddol Cymraeg hyna'r byd! Yn y bennod hon cawn bwnco yng nghwmni mari George a Jo Heyde wrth i ni drafod cyfrol newydd sbon 'Cerddi'r Arfordir' (Cyhoeddiadau Barddas). Hyn a hefyd barn dreiddgar Gruffudd Antur ar Linell Gynganeddol Ddamweiniol y Mis, ac mae gyda ni rai da y mis hwn!! Hyn a llawer mwy! Mwynhewch.