Clera

Informações:

Sinopsis

Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)

Episodios

  • Clera Chwefror 2021

    24/02/2021 Duración: 01h21min

    Croeso i bennod fawr y mis bach. Y tro hwn cawn gw,mni Bardd Plant Cymru, gruffudd Eifion Owen, yn ogystal a'n Posfeistr hollwybodus. Cerdd arbennig ac egsliwsif yn yr orffwysfa gan Rufus Mufasa. Eitem bryfoclyd am y gynghanedd gan Simon Chandler a rhagflas o traglen arbennig fydd gan Clera ar eich cyfer sef y Talwrn Ifanc.

  • Clera Ionawr 2021

    30/01/2021 Duración: 01h18min

    Blwyddyn newydd gaeth i chi gyd! Cawn gwmni ein Posfeistr hollwybodus, Gruffudd Antur, drwy gydol y bennod hon o Clera. Yn ogystal a hynny, cawn gerdd gan Megan Haf Davies, bardd ifanc o Rydaman a'r bardd sydd yn y bath y tro hwn yw'r Prifardd Osian Rhys Jones.

  • Clera Rhagfyr 2020

    20/12/2020 Duración: 01h26min

    Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i chi! Ar ddiweddblwyddyn rhyfeddol a rhyfedd, dyma bennod lawn o bethau difyr i gnoi cul arnyn nhw. O Olygyddion y Stamp, Esyllt Lewis a Grug Muse i Orffwysgerdd yn gan Aron Pritchard. Nad anghofier am bo Gruffudd Antur sy'n wych fel arfer ac fe gawn ddiweddglo teilwng i'r tymor gan blant ysgol sul Caersalem, Pontyberem.

  • Clera Tachwedd 2020

    28/11/2020 Duración: 01h31min

    Croeso i benniod y Mis Du. Yn ogystal a'r gorchwyl anodd o goffau Jan Morris a Mari Lisa, gyda theyrnged arbennig i Mari gan y Prifardd Tudur Dylan, mae'r bennod hon yn cynnwys cerdd yn yr Orffwysfa gan Marged Tudur o'i chyfrol newydd, 'Mynd', pwnco, pos a llawer o ddifyrrwch.

  • Clera Hydref 2020

    29/10/2020 Duración: 01h08min

    Croeso i bennod mis Hydref 2020 o bodlediad Clera. Cawn orffwysgerdd arbennig sy'n cynnwys holl feirdd plant Cymru wrth ddathlu 20 mlwyddiant y cynllun. Mari George yw'r Bardd yn y Bath, gruffudd a'i ymennydd Amheus sy'n cynnig y pos yn ol ei arfer ac mae'r pwnco yn mynd a ni i Lydaw. Mwynhewch

  • Clera Medi 2020

    30/09/2020 Duración: 01h16min

    Croeso i bennod mis Medi o bodlediad Clera. Yn y bennod hon cawn gerdd o gyfrol newydd sbon Casia Wiliam, 'Eiliad ac Einioes' (Cyhoeddiadau Barddas), fe glywn gan Alaw Griffiths sy'n dechrau swydd newydd fel Cydlynydd Barddas ac fe gawn hefyd y pos gan yr hollwybodus Bosfeistr, Gruffudd Antur a Phwnco am Huw Morys a beirdd 'y dirywiad', gan holi ydy'r cyfnod modern cynnar o ran y traddodiad barddol wir yn gyfnod o ddirywio?

  • Clera Awst - Gemau a Giamocs

    25/08/2020 Duración: 55min

    Pennod arbennig o'r Babell Lên AmGen. Recordiwyd hon ar Zoom gyda'n gwesteion arbennig Llio Maddocks, Elinor Wyn Reynolds, Ani Llŷn a Gruffudd Antur. Cawn drafodaeth bwnco ar gyhoeddi answyddogol, gorffwysgerdd arbennig gan Llio Maddocks, pos difyr gan Gruff a gemau a giamocs i gloi. (Maddeuwch y brychau bychain o ran sain)

  • Clera Gorffennaf 2020 - 'Y Gynghanedd Heddiw'

    28/07/2020 Duración: 58min

    Pennod arbennig sy'n canolbwyntio bron yn llwyr ar gyfrol y mae Aneurig ar fin ei chyhoeddi, sef Y Gynghanedd Heddiw. Mwynhewch drafodaeth am y gyfrol a cherdd dafod yng nghwmni gwesteion arbennig, Mererid Hopwood, Myrddin ap Dafydd, Caryl Bryn a Rhys Iorwerth. Diolch i'r Eisteddfod AmGen am gael defnyddio'r sain o'n trafodaeth fel rhan o ddarpariaeth amgen yr Eisteddfod. Hefyd cawn gerdd yn yr Orffwysfa gan Aled Lewis Evans, sydd newydd gyhoeddi cyfrol am Wrecsam, sef Tre Terfyn (Gwasg Carreg Gwalch).

  • Mehefin 2020

    28/06/2020 Duración: 01h25min

    Croeso i bennod mis Mehefin o Clera. Y mis hwn rydyn ni'n cael tair gorffwysgerdd gan feirdd buddugol Eisteddfod T yr Urdd, sef Osian Wyn owen, Cristyn Rhydderch Davies a Lois Campbell. Caryl Bryn yw'r Bardd yn y Bath, Llyr Gwyn lewis sy'n trafod ei bamffled newydd o gerddi ac mae Gruffudd a'i Ymennydd llawn Minnions yn cynnig pos difyr arall. Hyn oll a llawer mwy.

  • Clera Mai 2020

    28/05/2020 Duración: 01h18min

    'Dechreuad mwyn dyfiad Mai', a ganodd Dafydd ap Gwilym. Croeso i bennod mis Mai o bodlediad Clera. Cawn ddwy gerdd y tro hwn gan y Prifardd a'r Bardd Cenedolaethol, Ifor ap Glyn. Pos difyr gan Gruffudd Antur. Rhys Iorwerth yw'r Bardd yn y Bath ac fe gawn wrth gwrs yr eitemau arferol a llawer mwy!

  • Clera Ebrill 2020

    30/04/2020 Duración: 01h06min

    Croeso i'r ail bennod o bodlediad Clera yn ystod y Meudwyo Mawr. Mwynhewch, cadwch eich pellter, parchwch eraill yn y siopau a chefnogwch ein gweithwyr iechyd a gweithwyr allweddol a chadwch yn ddiogel.

  • Clera Mawrth 2020

    30/03/2020 Duración: 56min

    Podlediad cyntaf Clera yn y lockdown.

  • Clera Chwefror 2020

    28/02/2020 Duración: 01h35s

    Croeso i bennod mis Chwefror o bodlediad Clera. Yn rhifyn y mis bach rydyn ni'n pwnco am feirniadu eisteddfodol, yn cael gorffwsgerdd arbennig gan goilad o feirdd sy'n canu am Frecsit ac yn clywed unwaith eto gan ein Posfeistr doeth a hollwybodus, Gruffudd Antur. Mwynhewch!

  • Clera Ionawr 2020

    21/01/2020 Duración: 01h08min

    Croeso i'r bennod gyntaf o Clera yn y ddegawd newydd! Yn y bennod hon, mae gennym yr orchwyl drom o gofio Dai Rees Davies a gollwyd cyn Nadolig. Bardd, cynganeddwr, diddanwr, cefnogwr y pethe. Yn ogystal, cawn rai o'r eitemau arferol, y Pwnco, y Pos, y Newyddion a llinell gynganeddol ddamweiniol y mis. Cawn hefyd gerdd gan Eurig ei hun o'i gyfrol llyfr Gwyrdd Ystwyth. Diolch i Tudur Dylan am y llun o Dai Rees Davies ar glawr y bennod hon.

  • Clera Rhagfyr 2019

    15/12/2019 Duración: 01h17min

    Croeso i bennod y gaeaf noethlwm a'r Nadolig. Fel arfer, mae llwyth o ddanteithion barddol yn eich disgwyl, o Orffwysgerdd newydd sbon gan Geraint Lovgreen i lu o leisiau amrywiol yn trafod cyfrolau a chyhoeddiadau newydd sy'n eich disgwyl yn y siopau. Hyn oll, a chymaint mwy, o Dalwrn y Beirdd Ifanc a'r Pos gan gruffud Antur i eitem gsan Eurig o daith ddiweddar i India!

  • Clera Tachwedd 2019

    27/11/2019 Duración: 01h13min

    Croeso i bennod y Mis Du! Yn y rhifyn hwn mae gyda ni sgwrs rhwng y ddau Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd a Jim Parc Nest, Gorffwysgerdd Farfog gan Iwan Rhys, Talwrn y Beirdd Ifanc, Pos Gurffydd a'i obennydd miniog a llawer mwy!

  • Clera Hydref 2019

    31/10/2019 Duración: 54min

    Yn y bennod hon o Clera cawn sgwrs rhwng Philippa Gibson a Thudur Dylan Jones yn fyw o Wyl Gerallt, Llanrwst(sef cynhadledd flynyddol Barddas). Hefyd, rhan 1 o gyfres newydd sbon Talwrn y Beirdd Ifanc a cherdd yr Orffwysfa arbennig awn wedi ei datgan gan Rhys Iorwerth a Karen Owen. Hyn oll a llawer mwy!

  • Clera Medi 2019

    28/09/2019 Duración: 01h14min

    Rhifyn adladd Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst gyda'n gwesteion arbennig Richard Owen a Phil Davies. Hefyd mae'r Posfeistr, Gruffudd Antur yn camu i'r adwy yn sgil absenoldeb Nei. Daw cerdd yr Orffwysfa gan y Prifardd Tudur Hallam. Hefyd, Talwrn y Beirdd Ifanc - detholiad o ornest arbennig rhwng Bwystfilod Bro Myrddin a Piwmas y Preseli, gyda'r Meuryn ei hun, Ceri WYn Jones yn tafoli'r tasgau. Hyn oll a mwy!

  • Clera Yn Fyw o'r Eisteddfod

    19/08/2019 Duración: 51min

    Pennod fyw o'r Babell Lên gyda'n gwesteion arbennig, Lleucu Siencyn(Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru), Ein Posfeistr Gruffudd Antur a'r Prifardd-Plant Gruff Sol. Diolch i Sion Tomos Owen am y llun o Aneurig ar y clawr.

  • Clera Gorffennaf 2019

    31/07/2019 Duración: 01h05min

    Pennod Fyrddinaidd!

página 3 de 5